Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GWENLLI FOTY'R BRWYN.

Genethig hynaws heini,
Dihareb am ei swyn
Sirioled a'r goleuni
Oedd Gwenlli Foty'r Brwyn;
'Roedd hâf mewn gwisg ysblennydd
Hyd ochrau'r droetffordd gam,
Pan welais bedair ysgwydd
Yn mynd tan arch ei mam.

Hwn oedd y diwrnod cyntaf
Im weled Gwenlli dlos,
'Roedd iddi'r ddeurudd harddaf,
Tan wallt oedd unlliw'r nôs;
,Bryd hyn 'roedd ffrydiau gloewon
Yn treiglo lawr y ddwy,
Ac arlun clir o'i chalon
I'w gweled ynddynt hwy.

Ei thad yn gaeth i'w chwantau
Aeth yn oferddyn ffol,
Rhy wan ymbilgar ddagrau
Y ferch i'w gadw'n ol;
Ei gofid geisiai guddio,
Tra hyglyw ddwedai'i gwedd,
Ei bod yn cyflym wyro
I gynnar, gynnar fedd.