Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhowch i mi'r eneth lednais
Ni waeth os bydd dylawd,
Heb yn ei chalon falais,
Nag yn ei genau wawd;
Yr eneth drwy ddrycinoedd
A'i chariad yn cryfhau,
Cewch weled llifo'r nefoedd
I mewn i fywyd dau.

1926.