Prawfddarllenwyd y dudalen hon
YR HEBRWNG.
BUM yn ei hebrwng ganwaith, eneth dlos
Yng ngwawl y lleuad draws y rhostir llaith,
Mor hawdd oedd oedi weithion ar y daith,
Yn llesmair serch tan ddwyfol hud y nos ;
Seliasom lawer amod tan y pîn,
A'r oll yn annhoredig dybiem ni,
Er gweled deigryn yn ei llygaid hi
Pan brofais ar y rhostir fêl ei min.
'Roedd yng nghalonnau deuddyn freuddwyd gwyn
Am wynfa heulog ym mharadwys serch,
Ond chwalwyd drud sylfeini cestyll derch
Ein dymuniadau, pwy esbonia hyn?
Dychwelais heno draws y rhostir llaith
O hebrwng rhywun hoff i'w holaf daith.
1928