RHAGAIR.
DECHREUAIS gasglu llinellau diarhebol, sef cwpledau, a gemau'r awen Gymreig, tua deng mlynedd ar hugain yn ol, a chynorthwyid fi yr adeg lawen honno gan fy niweddar frawd John, —bachgen llawn o dueddiadau llenyddol. Ymddangosodd rhannau o'm casgliad bychan cyntaf yn rhifynnau Cyfaill yr Aelwyd am y flwyddyn 1885. Anogwyd fi, gan y diweddar lenor medrus, Mr. Isaac Foulkes (Llyfrbryf), i helaethu fy nghasgliad. Dyma'i fynegiad ataf ar y pryd,—
"Buasai casgliad mawr o linellau diarhebol fel hyn yn ddyddorol iawn, ac yn wir addysgiadol. Bendith ar eich llafur. Ewch ymlaen, ar bob cyfrif, i'w helaethu, a'u cyhoeddi yn gyfrol. Byddai y fath gasgliad yn beth newydd yn ein llenyddiaeth, ac o werth arhosol."
Ymhen blynyddoedd wedyn, sef yn y Cymro, am Awst 1, 1901, dechreuodd gyhoeddi ychydig o "Ddiarhebion Barddonol," gan ddywedyd fel rhag-nodiad, "Rhaid i ymadrodd wrth amser a threigliad llafaredig, cyn y bydd yn ddiarheb, ac o herwydd hynny, nid teg fyddai dweyd nad oes defnyddiau diarhebion yng nghynyrchion ein beirdd presennol. Er hynny, pan gyhoeddir llinell neu gwpled tarawgar, o wir natur diarheb, ni fyddant yn hir cyn cael cylchdaith, a gwnant eu lle yng nghôf ac ar lafar gwlad.