Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blodau'r Gynghanedd.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Englynion y Misoedd "); Taliesin Ben Beirdd (o "Ddyhuddiant Elphin," &c.); a Llywarch Hen (o'r "Eiry Mynydd, &c.), a'r Gogynfeirdd, gan fod y moes-wersi sydd ganddynt hwy i'w cael yn y casgliadau cyhoeddedig.

Dilys fod yn y casgliad hwn fwy o linellau o waith y cynfeirdd na'r beirdd diweddaraf, oherwydd fod eu gweithiau hwy yn llawnach o linellau gwir ddiarhebol nag eiddo y beirdd diweddar,—er cystal cynghaneddwyr ydynt hwy. Y mae gweithiau William Lleyn, Tudur Aled, Sion Tudur, Edmwnd Prys, Goronwy Owen, a'u tebyg, yn orlawn o athronddysg foesol, a honno mewn cwpledau pert, tarawgar, a hawdd i'w cofio. Diau mai'r pencampwr o honynt i gyd yw William Lleyn. Yr oedd Islwyn ym meddu ar lawer o allu i grynhoi ei feddwl i ychydig o eiriau cynhwysfawr a mynegiadol. Hefyd, yr oedd Dewi Wyn o Eifion, a Robert ab Gwilym Ddu, yn fedrus iawn am lunio rhai cwpledau cryno, a fyddant yn anfarwol.

Pan oedd llyfrau yn brin, a'r wlad yn dywyll ac isel ei breintiau,—mewn crefydd, dysg, a gwybodaeth,—yr oedd llunio llinellau diarhebol yn un o amcanion pennaf yr hen feirdd. Dyma oedd eu pregethau, a'u cyfarwyddiadau, a'u cynghorion, er gwella a dyrchafu moes a buchedd eu cydwladwyr, yn wreng a bonedd. Diau fod mwy o arfer a thalu sylw i wersi diarhebion yn yr hen oesau. Yr oedd eu dysgeidiaeth darawiadol, fyw,