Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blodau'r Gynghanedd.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a difrifol, "yn llusern i'w traed ac yn llewyrch i'w llwybr yng nghwrs eu taith drwy anialwch y byd. Buont yn gyfrwng i ddarbwyllo lluoedd o'u ffyrdd pechadurus, pan nad oedd son am unrhyw ddiwygiad, na dechreu canu hymnau melus Pant y Celyn. Hyderaf y caiff llawer fendith drwyddynt eto.

Ar anogaeth llenor cyfarwydd yr wyf yn newid holl drefniant y casgliad. Ar y cyntaf, rhoddais ddechreu pob brawddeg yn unol â'r wyddor, â'r hen gynllun, gan eu rhif-nodi, yna llunio mynegai ar ddull y llyfrau hymnau. Er fod y wedd allanol yn edrych yn fwy trefnus felly, eto, yr oedd y fath gymysgfa neu amrywiaeth yn dilyn eu gilydd yn difetha ei werth. Yn awr, crynhoir popeth ar yr un testyn gyda'u gilydd.

Rhoddir yma, hyd y gallaf, y darluniadau mwyaf cryno, prydferth, a tharawiadol, a fedd meistri'r gynghanedd ar wahanol destynau, gyda'r cwpledau. Bwriedir i'r casgliad fod o ryw werth i'n cenedl, ac y mae fy amcan yn gywir, er fy holl anfanteision fel ffermwr syml yn llechu yng nghysgod y Wyddfa. Nid yw hyn ond tua chwarter fy nghasgliad mawr. Fy amcan cyntaf oedd dwyn y cyfan allan yn un llyfr, ond dyryswyd hynny gan effeithiau'r Rhyfel.

CARNEDDOG.

Nanmor, ger Beddgelert,
Ionawr 23ain, 1920.