Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Ond yr un yw Duw erioed,
I Hwn ni pherthyn henoed.
—HENRY GWYNEDD HUGHES, Llanrwst.
Duw, Cariad yw.
Awdwr pob cariad ydyw
Duw y Cariad—Ei Dad yw.
—WATCYN WYN.
Duw a wnaeth bob da i ni.
—DAFYDD AB EDMWND.
Pan oedd yr oesoedd ar wall
Un Duw oedd yn eu deall.
—TUDUR ALED.
Duw orau hwch daearydd,
Duw Iesu—Duw fu, Duw fydd.
—SION CENT.
Popeth yn ddifeth hyfwyn,—
Rhoi Ei un Mab er ein mwyn.
—DEWI WYN O EIFION
Duw Iesu, da i weision.
—EDMWND PRYS.
Duw mawr biau gadw byd,
A Duw biau gadw by wyd.
—BARDD NANTGLYN.
Y goreu'n ol geir yn Nuw,
Yw arwyddair y Gwir—Dduw.
—TEGAI
Ofnadwy, fy Nuw ydwyt,
A thirion i wirion wyt!
—DAFYDD IONAWR.
Mae'n gobaith ar daith wir deg,
Trwy yr un—Duw tiriondeg.
—JONATHAN HUGHES.