Ie, Duw a edwyn dywydd ei deulu,
I'w dwyn a'u caru o dan eu cerydd.
—JAMES HUGHES (Iago Trichrug),
Llundain.
Pob cur, dolur, a diluw,
Man lle dêl, y mae'n llaw Duw. PwY?
Gallu Duw sy'n gwellhau dyn.
—WILLIAM LLEYN.
Heddyw, ust, a bydd ddistaw,
Ceir gwybod ddiwrnod a ddaw.
—JOHN HUGHES, Pont Robert.
Ah! arafwch uwch rhyfedd—droion Naf,
Yn wyl e dawaf i wylio'u diwedd.
—TAFOLOG.
Nac ofnwn, rhodiwn yn rhydd,
Yn llaw Duw mae'n holl dywydd.
—J. R. TRYFANWY.
Diddana Duw dy ddunos,
A'i gân ef a'th ddysg y nos.
Onid Efe o hyd fydd
—EIFION WYN.
Yn Hermon pob ystormydd?
—BEN BOWEN.
Gwell â'r Ior ymgynghori,
Be' sy'n iawn sy' o bwys i ni.
—Pwy?
I'r Ion mae'n rhaid boddloni,—
Da iawn waith wnaeth Duw â ni.
—TWM PEDROG.
Geilw Ior i egluredd
Boenau byd, a diben bedd.
—ALAFON.
Llaw Duw.
Duw a raddiodd dy wreiddyn,
A llaw Dduw a wellhâ ddyn.
—WILLIAM LLEYN.