Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blodau'r Gynghanedd.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llaw Duw a enill y dydd.
—Pwy?

Mae i dál Ef am dy lafur,
A medi gei am dy gur.
—TUDNO.


Daioni Duw.

Derbyn y mae dyn bob da,
Gwir iach, o law'r Gorucha.
—BARDD NANTGLYN.


Rhoddion Duw.

Rho'ed Duw gwyn yr hyn fo rhaid,
A Duw ranno da i'r enaid.
—LLYWELYN DDU O FON


Haelioni dyn a haelioni Duw.

Dyn a ran da yn ei raid,
Duw a ran da i'r enaid.
—GUTO'R GLYN.


Bendithion Duw i'w bobl.

Daw o law Duw Elias,
Oddi fry, i ti wledd tras.
—TEGAI.

Daw o law Naf, dal yn ol—bendithion,
Eto yn afon o fwyniant nefol.
—GWILYM ERYRI.


Gofal Duw am y tlawd.

Na chynilwch, anwylyd,
Tâl Duw gost y tlawd i gyd.
—DEWI WYN O EIFION



Moliannu Duw.

Pa glod sy'n ormod i Ner?
—GORONWY OWEN

Mydrwn glod, eurglod Arglwydd,
Moler y Sanct,—mael yw'r swydd.
—THOMAS JONES, Dinbych.