Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blodau'r Gynghanedd.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Moliannwn ddi dwn Dduw da—
Ffynnon bur, ffon ein bara.
—BARDD NANTGLYN.

Mae gan Dduw hawl i fawl fyth.
—Pwy?


Diolch i Dduw.

Rho'wn ein gair i'r Hwn a'n golch—
I'r hen Dduw y rho'wn ddiolch.
—TAFOLOG.


Mawl i'r Creawdwr.

Mawl! mawl! i'r Anfeidrawl Fod—
Prif addurn pob rhyfeddod !
Deued, dihuned anian,
Ei thônau, a'i doniau'n dân.
—EMRYS.


Moli Duw.

Dysgwn, emynnwn y mawl
Agweddo 'r gân drag'wyddawl.
—GWALLTER MECHAIN.


Rhoi i Dduw.

I'r Duw da dyro dy doll—
Mawl—ddegwm i'w law ddigoll.
—EBEN FARDD.

Pa faint sy' cymaint, os caf
Roi echwyn i'r Goruchaf?
—DEWI WYN O EIFION.

Rhoi o'n llwydd, ac egwyddor—yn tywys—
Rhoi o'r ewyllys raid ar yr allor.
—GWILYM ERYRI.


Rhoi a derbyn.

Yr aur aml a roi'r yma
O goffr Duw, a gaiff air da.
—GUTO'R GLYN.