Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blodau'r Gynghanedd.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhoi ei hunan i Dduw.

Us yw pyrsau heb berson
Efo'r aur, yng nghyfri' Ion.
—TAFOLOG.



Byw yn Nuw.

Byw yn Nuw, byw o newydd,
Byw fel anfarwoldeb fydd.
—IsLWYN.



Gofyn Duw.

O'th frasder gwerthfawr estyn—
Gofynna Duw gyian dyn.
—GWILYM ERYRI.



Gobeithio yn Nuw.

Da yw i ddyn, doedddel,
Obeithio yn Nuw Bethel.
—ERYRON GWYLLT WALIA.

Byth yn Nuw gobeithio wnaf.
—DEWI GLAN DULAS.



Mwynhau Duw.

Da i'r naid a'i rinwedd
Ydyw mwynhau Duw mewn hedd.
—ROBYN DDU ERYRI.



Mwynhad o Dduw y goreu.

Pwy ar ol y Dwyfol dant
Ofynna annuw fwyniant?
—MACHRETH.



Boddio Duw.

O cefaist fwynder cyfoeth,
Boddia Dduw, a bydd ddoeth.
—EOS IAL.