Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blodau'r Gynghanedd.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Telyn Duw.

Un nodyn o delyn Duw
I addolwr, dry'n ddiluw;
I awen y dyn newydd
Dafn yr Ior yn fôr a fydd ;
Efe a dynn o'r isaf dant
I'w fynwes buraf fwyniant.
—MACHRETH.

Rhoddes Duw urddas y dydd
I ddwylo ei addolydd.
—ISLWYN.



Byth Duw.

Y mae'n well, be deallyn,
Byth Duw, na gobeithio dyn.
—SION TUDUR.



Gwell Duw a dyn.

Gwell doniau na gwyllt ennyn,
Gwell yw Duw na gallu dyn.
—WILLIAM LLEYN.



Duw bia parch.

Cofier, ar ol pob cyfarch,
Nad i ddyn y perthyn parch.
—GORONWY OWEN.



"Sancteiddier dy Enw."

Beth a wnawn—ein bathau ni—
Eiddilod, ond addoli?
—EIFION WYN.



Canu i Dduw.

Nid a dydd awenydd war
Faetho Dduw fyth i ddaear.
—TWM O'R NANT.



Credu i Dduw.

Cu iawn i bawb cyn eu bedd
Goelio i Dduw, rhag gwael ddiwedd.
—SION CENT