Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Credwch i'r Ior caredig
Trwy heddwch, na fyddwch ddig.
—ROBYN DDU O HIRADDUG.
Troi at Dduw.
Tueddwn oll at Dduw Nêr.
—ROWLAND VAUGHAN, o Gaer Gai.
"Heddyw, os gwrandewch ar ei leferydd ef."
Trwy wahoddiad, tro heddyw,
Nag oeda, fab, yn dy fyw.
—EDWARD MORUS.
At Dduw.
Deuwn y rhai da yn y rhaid,
Dyna ran Duw yn r enaid.
—OWEN GWYNEDD.
Gwrthod Duw.
Gorffwyllus, gwawdus gwedyn,
Yw gwrthod Duw fel gwerth dyn.
—GWILYM ALLTWEN.
Gochel pechu.
'Mogelwn, gwyliwn y gwaith,
Meddyliwn am Dduw eilwaith.
—RHYS GOCH ERYRI.
Mae'n eang gan Dduw.
O bydd cyfyng, heb eidduw
Gan ddyn, mae'n eang gan Dduw.
—IORWERTH FYNGLWYD.
Twyllo Duw.
Llunio un ffordd gynllunawl
I dwyllo Duw nid all Diawl.
—HWFA MON.