Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blodau'r Gynghanedd.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Trefn Duw yn uchaf.

Nid yw'n weddus gan wiw—Dduw
Treth dyn. ond tra fynno Duw.
—WILLIAM LLEYN.



Myfi yw y ffordd, y gwirionedd, a'r bywyd."

Ffordd yw'r Ion â'r gwirionedd,
Ysbryd a bywyd o'r bedd.
—BARDD NANTGLYN.

O Dduw byw mae ffordd bywyd—
Ffordd rasol i farwol fyd.
— WATCYN WYN.



"Bydd barod i gyfarfod a'th Dduw."

D'wed dy bader yn bêr, bydd barod—i Dduw,
Mae dy ddydd yn dyfod.
—Pwy?



"Crynu wrth fy ngair."

Duw lor, nid yw am daro—'r trueiniaid,
O gywir enaid wrth ei air a grynant.
—MEURIG EBRILL.



Yr Arglwydd edwyn ffordd y rhai cyfiawn."

Duw a edwyn ffordd dyn da.
—Capten WILLIAM MIDDLETON
(Gwilym Canoldref).



Rhyddid o Dduw.

Rhodd Duw, oedd rhyddid iddyn'
A yrrodd Duw, sy'n rhyddhau dyn.
—WILLIAM LLEYN.



Duw'n agos.


Yn nhrymder, yn nyfnder nos—mewn hedd,
A mud unigedd, O! mae Duw 'n agos.
—ISLWYN.