Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
34 Blodau'r Gynghanedd. Y Cyfamod newydd. Duw wna gyfamod newydd. Yn ei Fab, a ffyddlawn fydd. TEGAI. Duw y cymod. Da camol Duw y cymod.. GWILYM HOWEL, yr Almanaciwr. Gwerth addewid Duw. Nawdd a lles, yn nydd y llid, Ddaw o Dduw, a'i addewid. Yn Nuw. Daw'r byd i gyd yn gadarn, PENFRO. Yn Nuw, i fyw'n iawn ei farn. GURNOS. Duw'r Tad. Ei enw fyth foliannaf-a'i Arfaeth, Am roi dynoliaeth i 'Mrawd anwylaf. Ewyllys Mab Duw. Yr oedd hi mewn llawn ryddhad-o'i gwir fodd. Yn ddewr y curodd wrth ddorau Cariad. SKIWENYDD, Spring Valley, III. Gair Duw. Ofer dim, ferw diymwad, Ond gair doeth Duw goreu Dad. Gair ni dderfydd, cynnydd call, Gair Duw, medd gwr a'i deall. WILLIAM CYNWAL. Gair Duw yw'r arf a darf Diawl. SION TUDUR.