Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blodau'r Gynghanedd.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Duw. Gair Duw yw y goreu dysg. Gair Duw Naf a gredwn ni. Y Gair hen yw'r Gwirionedd. Uwch Armin a Chalfini, Gair Duw Ner a gredwn ni. 35 Pwy? BARDD NANTGLYN.. Gair Duw byth yw'r gwir di ball,- Gair Duw egyr y deall. GUTYN PERIS. Gair Duw egyr y deall, Gair Duw rydd olwg i'r dall. TWM O'R NANT. Cleddyf prydferth a nerthawl Yw gair Duw, a gûr y Diawl. MEURIG EBRILL. Gair Duw sy'n agor deall Dyn, gan oleuo'r dall. IONORON GLAN DWYRYD. Gair Duw yw sail y gred sicr. ISLWYN. Daionus i fyd annuw, Yn gariad oll, yw gair Duw. ELFYN. Pwy ond Duw? Pwy ond Duw, mewn pennyd all,- Ucha' wr-iachau arall? TwM PEDROG. Plygu. A'ı law gref, 'e blyg yr Ior Y gangen at ei gyngor. Heddwch trwy aberth. 'E ymddengys enfys Ior Yn well ar fwg ei allor. TAFOLOG. ELFED.