Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
38 Blodau'r Gynghanedd. Duw sydd noddfa-dyna dŵr Dawela bob dialwr! DYFED. Duw yw nawdd ein bywyd ni. PERTHOG, Penmachno. "Heb Dduw, heb ddim." Ystyr nad da yn ystig I ddyn ei dda, a'i Dduw'n ddig. SION CENT. Byd oerddig, bod heb wir-Dduw, Byd heb ddim yw bod heb Dduw. DAFYDD AB GWILYM. Gwae a gred, uwch caled-awr, I ddim oll, ond i Dduw mawr. IOLO GOCH. Nid oes nerth ar a berthyn Onid Duw, i enaid dyn. Pwy? Ym mhlaid yr enaid, pwy rydd-ymwared. Rhag marw'n dragywydd? IEUAN BRYDYDD HIR. Mewn trwmglwy', pwy, ond Duw pur,- Cu lesu-all roi cysur? WILLIAM EDWARDS (Gwilym Callestr), Yegeifiog. Anobaith du, du, wynebaf O dduyn oes heb ddelw Naf. GLAN TECWYN. Os heb Dduw, mae cosb i ddod. PERTHOG, Penmachno.