Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
Duw. Trugareddau Duw. O dir a dŵr y daw'r da At yr aelwyd a'i treulia. HOWEL DDAFYDD. 41 Rhagluniaeth yn ystwytho rhai cyndyn trwy oruchwyliaethau chwerwon. I greu braw, 'n ei dwylaw daeth Mawr wialen marwolaeth. TAFOLOG. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol." Ni yraist ddwrn i 'nharaw- Nid all llwch ddal ond y llaw. EIFION WYN.. Gofalu am yr adar lleiaf. I'r mân adar darparwyd,- Fintai fawr rywfaint o fwyd. JONATHAN HUGHES. Edn bach gwan o dan y berth A gofia'n Ior, caiff gyfnerth. TEGAI. Cywion mân y gigfran gânt Hawl i ofyn, pan lefant. DEWI ARFON.. Dyry ei bwyd i'r dryw bach, A'i dylwyth yn y deiliach, Tyrr i aderyn y to Ei bendith dan y bondo. Ar led yn arlwyedig,- Dyna y bwyd dan ei big! HWFA MON.