RHAN II. IESU. Cyfryngwr. Yn ol darpariaeth Ei arfaeth erfai, Uwchben Ei Eden i achub neidiai. O dan y coedydd mewn dyn y cydiai,- Rhwng yr afonydd Cyfryngwr fynnai. O'r iseledd a breswyliai-dan farn Haeddianol, gadarn, Adda'n ol godai. Acw Oen seliodd cyn seiliad y byd. Ag arbedol fwriad ; Yr Un Teg ym mron y Tad Wnai yn lawn â'i eneiniad. G. H. HUMPHREY. "Wele Fi, anfon Fi." Llais calon yn boddloni Nef y Nef oedd "Anfon Fi!" lesu alwyd yn sylwedd GWILYM ERYRI. I garu byd ar gwrr bedd; Llais deddf ewyllys ei Dad,-a'i galwodd, Y Nef a'i gyrrodd, o'i dyfnaf gariad. SKIWENYDD, Spring Valley, Ill. Yr Ymostyngiad. Dan warth daeth ein Ceidwad ni-o lys glân Duw lor Ei Hunan, i'r dwfn drueni: Yn dlawd daeth i deulu dyn Mewn galar, er mwyn gelyn; O'i wirfodd drosto'i ddiodde', Rhoi'i Hun i lawr yn ei le. GWILYM ERYRI. Ymgnawdoliad Cariad cu, I'r oesoedd, oedd yr Iesu. G. H. HUMPHREY.
Tudalen:Blodau'r Gynghanedd.djvu/46
Gwedd