Iesu. Yr Angylion yn cychwyn i Fethlehem. Drwy wych gynteddoedd nefoedd wen hofient, Ac ar eu gilydd o bob cwrr galwent; Eu Duw daionus yn felus folent, Ac i'r Messeia "Hosanna" seinient; Ac à chân y cychwynent-i Fethle'm,- O wynfa Salem yn nwyfus hwylient. MACHRETH. Yr Angylion a'r Bugeiliaid. Su tannau aur yn ust nos,- "Nac ofnwch yng ngwyrth cyfnos. EIFION WYN. Y Garol. Bu bywiawl ganiad yn bur blygeiniol Uwch Ephrath, dorrai'n wiw gywrain garol; A seiniau hyfedr y "lliaws nefol" Lanwai'r awyr i'r gwylwyr bugeiliol: I un euog annuwiol-dedwydd ddydd Oedd gwyn foreuddydd y gân wefreiddiol. Lleisiai y dorf "ewyllys da "-i ddyn Oddiwrth Jehofa; Wele hedd i hil Adda, efengyl Yn alaw engyl i'r anheilynga'. MACHRETH. Y Baban Iesu yn y Preseb. 43 Gweld lesu mewn gwlad isel,-do, un- Syfrdanwyd yr angel, Rhyfeddod oedd gyhoedd, gel! Cariad Duw mewn cryd tawel! [waith, G. H. HUMPHREY. Iseled Brenin Caersalem, Bythol Lyw hon yn Bethlehem! ISLWYN. Y Duw a'n gwnaeth ddaeth yn ddyn. Trosom-yn llety'r asyn! ALAFON.
Tudalen:Blodau'r Gynghanedd.djvu/47
Gwedd