44 Blodau'r Gynghanedd. Ow! dyloted Ei lety,-haeddai lys,- Nid oedd le'n y gwesty; Dibris a fu'r byd obry O'r haeddfawr Aer oddi fry. GWILYM ERYRI. Ac Aer y Nef-y goreu o neb Pur isel oedd yn y preseb,- Yn dlawd Ei drem yn Bethle'm bu-heb lys, A'i gêl ewyllys yn gwylio'i allu. IDWAL MAI, Racine, Wis. Mair. Dyn oedd yn adnewyddu-ei lawn hwyl Yn ei wely mânblu, A Mair o dan y mur du-heb annedd, Mor wen a rhinwedd, ymron a rhynu! Y Preseb. DYFED. Cryd oer bach Creawdwr byd. ALWENYDD. Y Duw-ddyn yn y Preseb. Daeth Maban glân goleuni, A Duw Nef i'n daear ni. Mab y Tad. TWM PEDROG. Y gwir Iesu, gwiw groesiad, Oedd un Duw iddo yn Dad. EDMWND PRYS. Mab y Forwyn Fair. Crist grair mab i Fair Forwyn. GRUFFYDD LLWYD. Pwy ond Iesu-pen dwysair, Oreu Mab i wiwryw Mair. HUGH LEWIS.
Tudalen:Blodau'r Gynghanedd.djvu/48
Gwedd