Iesu. A'r byd nid adnabu Ef." Rhy ddall i ddeall ei Dduw A fu dynol fyd annuw. TUDNO. Y Bachgen Iesu a'i Rieni.. Cai loseph lawer cusan Tynerus o'i wefus wan; A'i law fach, gofleidiol, fwyn, Fu am wddf Ei fam addfwyn. G. H. HUMPHREY. Dirmyg ein byd at ein Ceidwad. Yn null ei greadur-anllygredig, Hynaws Greawdwr fu'n was caredig; Ie, myg Geidwad yn ddirmygedig! Dan warth, y Duwdod yn wrthodedig, A gofidiau gwaefydig-yn amlhau Gwaradwyddiadau yn gordeddedig! Mae heilltion gerryg milldir Rhodiad Duw ar hyd y tir. Dan boen y byd, dan bwn bai Mor unig y merwinai! TUDNO. Crist heb le i roi Ei ben i lawr. Yn wynfydedig ar ddeiliog frigyn Cyn i hwyr dorri canai'r aderyn, Ymunai cymar ym mhwnc ei emyn Am dŷ a thylwyth, tamaid, a thelyn;- Yntau'r grasol ddwyfol ddyn-yng nghanol Byd anobeithiol; heb adwaen bwthyn! DYFED. Cawn ofwy'r "Gŵr Cynefin-a dolur" Hyd ardaloedd dryghin, Heb le i'w ben blin-mewn anhunedd, Na lle er gorwedd, ond y llawr gerwin. 45 Ffau greigiog gai'r llwynogod,-gwyl adar Glydent yn eu nhythod, Ond am lesu, bu yn bod Heb breswyl dan wybr isod! TUDNO.
Tudalen:Blodau'r Gynghanedd.djvu/49
Gwedd