Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lun o edifarhau am ei weithred. Ac eb ef yn ei feddwl,-" gwae fi fy mod yn achos y dinistr hwn ar wŷr Ynys y Cedyrn, a gwarth fydd arnaf oni cheisiaf ymwared rhag hyn." Gorweddodd fel gŵr marw ymhlith cyrff y Gwyddyl, a daeth dau Wyddel ato a'i fwrw i'r pair gan dybio mai Gwyddel ydoedd. Ymestynnodd yntau yn y pair hyd nes torri o'r pair yn bedwar darn. Yna torrodd yntau ei galon. Ac oherwydd hynny yr arbedwyd hynny a arbedwyd o wŷr Ynys y Cedyrn. Ni ddihangodd dim ond saith, canys brathwyd Bendigaid Fran ei hun yn ei droed â gwaywffon wenwyn. Y gwŷr a ddihangodd oedd Pryderi, Manawyddan, Glifieri, Eil Taran, Taliesin, Ynawg Gruddieu fab Muriel, a Heilyn fab Gwyn Hen.