Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brenin yr Ellyllon.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGAIR.

GANED Nicolas Gogol yn y flwyddyn 1809 yn Wcraina, y wlad a elwir yn Saesneg "Little Russia." Prif-ddinas y wlad honno yw Kiev (llefarer Cieff). Y mae Wcraina'n un o'r gwledydd bychain hynny y gwelir yn y dyddiau hyn genedl newydd yn dyfod i'r golwg ynddynt. Ganed y genedl honno mewn ystormydd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, a phur ystormus a fu ei bywyd ar ei hyd. Y mae rhan o'r genedl yn awr yn byw yng Ngalicia, dioddef dan iau y Pwyliaid. Y mae rhan arall ohoni yn byw yn Slofacia, yn mwynhau Ymreolaeth dan y Weriniaeth Tsech.

Un o wir blant Wcraina ydoedd Nicolas Gogol. Yr oedd ei feddwl wedi ei drwytho â chwedloniaeth ac â cherddi nwyfus gwladgarol ei genedl. Er bod Wcraina dan goron Tsar Rwsia, ac er i Gogol dreulio blynyddoedd ym Mhetrograd, Wcrainiad i'r carn ydoedd Gogol, a charai Kiev, prif— ddinas ei wlad ei hun, yn angerddol fwy na Phetrograd a'i blinai. Nid oedd iddo ddim diddanwch yn hanes yr Ymerodraeth o gwbl, eithr ymroes i astudio hanes ei genedl ei hun. Bu'n cloddio'n hir yn y croniclau, eithr blinodd ar eu sychter. Troes at ei llên, ei chwedloniaeth, a'i chân. Ebr ef mewn llythyr, "Cerddi Wcraina yw ei phopeth, ei barddoniaeth, ei hanes, a bedd ei thadau." Wedi yfed yn helaeth o'r ffynnon iach risialaidd hon, ysgrifennodd ei storïau godidog. Yr oedd ei feddwl ar dân gan ramant cân a chwedl. Yr oedd yr hyn a greodd ei feddwl yn llawn o'r dychymyg mwyaf byw a rhamantaidd. Pwysicach fyth oedd mai anadl y fro a chwythai drwy'r hyn a greodd, a hynny a gyfrif am ei fawredd a'i werth yn hanes llenyddiaeth Rwsia. Yn y ddeunawfed ganrif, patrymau estron oedd i'r llenyddiaeth honno; rhywbeth gwneuthur ydoedd, heb nemor o fywyd y wlad ei hun ynddi. Amlheid geiriau estron—Almaeneg, Ffrangeg, a Saesneg yn iaith y gwŷr mawr, a rhoddid bri yn wasaidd ar y patrymau estron. Yr oedd y llenyddiaeth felly'n rhwysgfalch a marwaidd.

Adnewyddwyd bywyd yn y llenyddiaeth honno ar ddechreu'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn bennaf gan Alexander Pushkin, bardd mwyaf Rwsia (1799—1837), a Nicolas Gogol. Troes y ddau at yr iaith frodorol. Y mae dylanwad estron arnynt hwythau, eithr nid fel caethion yn derbyn briwsion o wledd y gŵr mawr yr oeddynt. Yn hytrach, gwladgarwyr rhydd yn dewis yr hyn a fynnent gan y byd, a llunio hwnnw yn ol eu hewyllys at ddibenion eu pobl eu hunain. Gwelsom beth tebyg yn hanes llenyddiaeth Cymru. Yr unig gyfnodau mawr yn ei hanes yw'r rhai hynny pan edrychwyd â'r llygad noeth Cymreig ar drysorau'r byd yn uniongyrchol.