hwy namyn tafell galed o dybaco. Ni ddygasent ddim lluniaeth ganddynt, ond bwyta ar y pryd unrhyw beth a fyddai wrth law. Cerddai aroglau tybaco a gwirod oddiwrthynt, a hynny mor bell, ar brydiau, ag yr arhosai rhyw grefftwr wrth fyned heibio iddynt, a ffroeni'r awyr yn hir, fel gwaedgi.
Yr oedd y marchnadle tua'r amser hynny'n dechreu cyffro, a'r masnachwyr, gyda'u teisennau caled, eu caciau, eu hadau melon a'u coesau pabi, yn cydio ac yn tynnu wrth siacedi llïain teneu neu frethyn papur yr ysgolheigion hyn.
Fyddigion, fyddigion! Ffor' hyn, ffor' hyn!" galwent o bob tu, "teisenni, bonau pabi, topiau, pledrenni—ffein i gyd, myn Duw, ffein i gyd!" Gwaeddai hen wreigan arall, gan gydio mewn ffon hir o fara wedi ei blethu," Fale! fyddigion; prynwch fy fale i!"
"Peidiwch â gwrando arni; edrychwch mor fudr yw hi; mae'i thrwyn hi'n rhedeg, a'i dwylo'n frwnt."
Ond yr oedd arnynt ofn cydio yn yr athronwyr a'r diwinyddion, oherwydd byddai'r rheini bob amser yn hoff o gymryd rhywbeth "i'w brofi "—a byddai hynny'n llonaid dwrn bob cynnyg.
Wrth fyned i mewn i'r athrofa, ymrannai'r holl dorf yn ddosbarthiadau a gynhelid mewn ystefyll isel ond gweddol helaeth, ac iddynt ffenestri bach, drysau llydain, a desgiau budr. Yr oedd y dosbarth yn llawn ar unwaith o sisial ymhob llais. Gwrandawai'r isathrawon ar wersi eu hysgolheigion. Tarawai trebl treiddiol y dysgwr gramadeg gwareli datseiniol y ffenestri bach, ac atebai'r cwareli dan glindarddach bron yn yr un dôn. Prysur fwmiai yn y cornel astudiwr rheitheg, y rhoddai ei enau a'i wefusau chwyddedig hawl iddo i'w gyfrif yn fyfyriwr ffilosoffi. Myngial a wnai