Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brenin yr Ellyllon.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn llais bâs, ond y cwbl a glywid o bell ydoedd "bw, bw, bw, bw, bw, . . . "Tra fyddai'r isathrawon yn gwrando ar y wers, cadwent un llygad yn sefydlog dan y ddesg, lle y sbiai caciau neu gwlffyn o bwdin berwi neu hadau melon allan o boced yr ysgolheigion dan eu gofal.

Pan ddigwyddai i'r holl dorf hon o fyfyrwyr gyrraedd yn weddol gynnar, neu pan wyddent y byddai'r athro dipyn yn ddiweddarach nag arfer, yna cytunent ar ymladd â'i gilydd, a byddai'n rhaid i bawb ymuno'n y ffrwgwd—hyd yn oed y rhai yr oedd yn ddyletswydd arnynt gadw trefn ar y dosbarth a'i ddisgyblu. Fel rheol, penderfynai dau fyfyriwr diwinyddol ar ddull yr ymladd—a ddylai pob un ymladd â'i gyfnesaf, ai ymrannu o'r dosbarth yn ddau, sef yr ysgolorion a'r myfyrwyr cyffredin. Pa fodd bynnag, y gramadegwyr a ddechreuai; yna wedi i'r rheithegwyr ymuno â'r frwydr, dringai'r gramadegwyr i ben y bannau i edrych ar yr ymladd. Wedi hynny disgynnai'r athronwyr â'u trawswch hirddu yn y drin, ac yn ddiweddaf oll y diwinyddion hir eu gyddfau, ofnadwy a rhyfedd eu llodrau. Dibennai'r frwydr, gan amlaf, drwy i Ddiwinyddiaeth drechu pawb arall, a gwthio Athroniaeth i'r dosbarth a hithau'n rhwbio'i hochrau ac yn cymryd ei lle ar y meinciau i ymorffwys.

Pan ddeuai'r athro i mewn at y dosbarth—buasai yntau yn ei ddydd mewn cyffelyb ymladdfeydd—canfyddai ar unwaith fod brwydr galed wedi digwydd, gan goched wynebau ei ddisgyblion. Yr un pryd ag y lluchiai'r naill athro'i wialen fedw ar bennau ei fyfyrwyr rheitheg, gwastatai'r llall mewn dosbarth arall yr athronwyr â'i ffon drom. Mewn dull arall hollol y telid i'r diwinyddion. Rhoddid