Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brenin yr Ellyllon.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhoddes yr hen wraig eu cysgleoedd i'r myfyrwyr. Dododd y rheithegwr yn y caban; cloes y diwinydd yn yr ysgubor wag; gosododd yr athronydd mewn côr defaid gwag.

Ysodd yr athronydd y carp ar unwaith, wedi ei adael yn unig. Edrychodd oddiamgylch ar ochrau plethedig y côr. Ciciodd y trwyn a wthid i mewn ato gan hwch chwilfrydig oedd yn y côr nesaf, ac yr oedd ar droi ar ei ochr dde i gysgu fel y marw. Dyma'r drws isel yn agor yn ddisymwth, a'r hen wraig dan grynu'n dod i mewn i'r côr. "Yr hen wraig, beth ŷch chi'n 'i mofyn?" gofynnai'r athronydd.

Ond deuai'r hen wraig yn syth ato â'i breichiau'n agored. "Oho!" meddyliai'r athronydd, "Dwyt ti ddim yn rhy hen i hynny, yr hen galon.'

Symudodd draw ychydig, ond neshaodd yr hen wraig ato eilwaith yn ddiseremoni.

Mynnai'r athronydd ei chilgwthio, ond, er mawr syndod iddo, canfu na allai na chodi ei ddwylo na symud ei draed. Dychrynwyd ef hefyd pan gafodd fod ei lais wedi distewi a bod ei wefusau'n dywedyd geiriau di-sŵn. Ni chlywai ond ei galon yn curo. Gwelai'r hen wraig yn dyfod ato, gan blethu ei dwylo, a chrymu ei phen, yn neidio fel cath ar ei gefn, yn taro'i ochr â choes ei hysgubell, ac yntau ei hun yn llamu fel march adeiniog, gan ei chario ar ei ysgwyddau.

Digwyddodd hyn oll mor gyflym ag mai prin y gallai'r athronydd ddyfod ato'i hunan. Daliodd yn ei benliniau â'i ddwy law, i geisio atal ei goesau. Ond er syfrdandod iddo, codid hwy, yn erbyn ei ewyllys, a charlament ymlaen yn fuanach na march Circasaidd.

Wedi iddynt fyned heibio i'r ffermdy, a'r gwastadedd llyfn yn ymagor o'u blaen, a choed du fel y glo'n ymledu yn eu hymyl, dyna'r pryd y dywedodd gyntaf wrtho'i hunan——

"Ha! gwiddon yw hi!"

Tywynnai'r lleuad newydd yn yr wybren. Gorweddai llewych meddal canolnos yn llen dryloew ar y ddaear, fel nudden ysgafn. Yr oedd y coetir, y maes, yr wybren, a'r gwastadeddau fel petaent yn cysgu'n llygad agored. Bu awel yn siffrwd ac yn dyrchafu o ryw gwr neu'i gilydd unwaith yn unig. Yr oedd rhyw naws laith—gynnes yn ffresni'r nos. Yr oedd cysgodion y coed a'r llwyni, megis llafnau main, yn syrthio ar y gwastadedd llechweddol fel sêr gwib. Dyna'r fath nos ydoedd pan garlamai'r athronydd Choma Brwt â marchoges ddirgelaidd ar ei gefn. Clywai ryw fath o ludded poenus, ryw nychtod yn llithro i mewn i'w galon. Gostyngodd ei ben, a gwelai'r gwellt, a oedd yn awr bron dan ei draed, fel petai'n dyfnhau ac yn ymehangu,