ei bod hi ar farw, ac yn dymuno, cyn marw, am adrodd gweddïau dros y meirw am dri diwrnod ar ol ei dydd hi gan ryw fyfyriwr o Kiev, Choma Brwt. Torrwyd y newydd hwn i'r athronydd gan y rheithor ei hun, a'i galwodd yn naturiol i'w ystafell a dywedyd wrtho y dylai frysio'n ddiymdroi ar ei daith, fod cyrnol o Gosac wedi gyrru cerbyd a gwŷr yn arbennig i'w gyrchu.
Crynai'r athronydd gan ryw deimlad dieithr na allai mo'i egluro iddo'i hunan. Dywedai rhywbeth dirgel wrtho fod rhyw chwithdod ar ddod i'w ran. Mynegodd yn bendant, heb wybod ei hun paham, nad elai.
"Nawr, edrych yma, meistr Choma," ebe'r rheithor, a fedrai ar brydiau annerch y rhai dano'n eithriadol foesgar, "does yr un cythraul yn gofyn i ti a fynni di fynd ai peidio. Yn unig mi ddwedaf hyn wrthyt, os dechreui di ryw ffwlbri i'm twyllo i, neu ddechreu dadleu, y rhof i'r gair i olchi dy gefn â bwndel o fedw fel na allit fyth ddymuno'i well."
Aeth yr athronydd allan dan grafu ei glust, heb ateb gair, gan arofun y cyfle cyntaf roi ei draed yn y tir. Yr oedd yn disgyn yn fyfyriol dros y grisiau serth a arweiniai i'r cwrt ynghanol y poplys. Arhosodd ennyd, canys clywai'n eglur lais y rheithor yn gorchymyn i'w stiward ac i ryw un arall hefyd—un o'r gweision oddiwrth y Cosac i'w gyrchu, debig iawn.
"Diolch i'w Anrhydedd am y blawd a'r wyau," ebr y rheithor," a dywed wrtho yr anfonaf y llyfrau yr ysgrifenna am danynt yn union pan fônt yn barod; rwyf i eisoes wedi eu rhoi i sgrifennydd i'w copio. A phaid ag anghofio, 'machgen da i, ddywedyd wrth ei Anrhydedd fy mod yn gwybod bod pysgota da ar ei stâd, yn enwedig stwrsiwn. Rwy'n gobeithio yr enfyn beth imi pan gaffo gyfle. Gwael