tafarnwr o Iddew'n rhuthro ymlaen gan lawenhau i groesawu ei hen gydnabod. Tynnodd selsigod porc allan o blygion ei siaced, eu rhoi ar y ford, a throi ar unwaith oddiwrth y cig hwn a waharddai'r Talmud. Eistedd ohonynt i gyd o gwmpas y bwrdd; godardau pridd yn dod ger bron pob gwestai. Gorfu i Choma Brwt gymryd rhan yn y wledd gyffredin. A chan fod trigolion Wcraina yn ddieithriad yn ymgofleidio neu'n cyd-wylo pan fônt ar y sbri, ni bu ohir nad oedd yr holl gaban yn atseinio â mwytheiriau.
"Dere mlaen, Spirid, gad i ni gusanu'n gilydd." "Dere 'ma, Dorosh, i mi gael dy gofleidio."
Pwysai un Cosac â thrawswch brith, yr hynaf ohonynt, ei ên ar ei law, a dechreu ubain o galon am nad oedd ganddo na thad na mam, a'i fod yn unig yn y byd. Yr oedd un arall, clebrwr mawr, yn dal i'w gysuro.
"Paid â llefain, er mwyn Duw, paid â llefain! Beth sy draw?—Duw'n unig a ŵyr beth sydd, na sut y mae, draw."
Aeth y Cosac a elwid Dorosh yn holgar dros ben, a dechreuodd annerch yr athronydd Choma, a'i groes holi'n ddi-daw.
"Carwn wybod beth a ddysgant i chi yn yr athrofa; ai'r un peth ag a ddarllen yr offeiriad yn yr eglwys i ni, ai'n wahanol?"
"Paid â'i holi!" meddai'r clebrwr, yn araf, "“gad iddynt ddysgu'r peth a gânt yn wastad.
Duw a ŵyr beth sy raid. Gŵyr Duw bopeth."
"Na, mae arnaf eisiau gwybod," ebe Dorosh," rwyf i am wybod beth sy'n ysgrifenedig yn y llyfrau yna sy ganddynt. Efallai ei fod yn hollol wahanol i'r hyn sydd yn llyfr yr offeiriad."