"Duw! Duw!" meddai ei deilwng hyfforddwr wrtho, beth yw'r holl siarad hyn. Ewyllys Duw ydyw, meddaf i ti, Duw a'i hordeiniodd. Ni ellir newid a drefno Duw felly."
Mae arnaf eisiau gwybod popeth sy'n ysgrifenedig. Mi af innau i athrofa; af, myn Duw. Wyt ti'n meddwl fy mod i'n rhy hen i ddysgu? Mi ddysgaf bopeth, meddaf wrthyt, popeth!"
"Duw! Duw!" meddai ei gysurwr, gan ostwng ei ben ar y ford, yn gwbl analluog i'w gynnal i fyny'n hwy.
Siaradai'r Cosaciaid eraill am y gwŷr mawr, a hefyd paham yr oedd lleuad yn yr wybr.
Pan welodd yr athronydd Choma fod y gyfeddach wedi codi i'w pennau, penderfynodd ddal ar y cyfle a llithro ymaith. I ddechreu, anerchodd y Cosac gwalltfrith a fuasai'n cwyno dros ei dad a'i fam.
"Am beth y buoch chi'n cwyno'r hen frawd?" ebr ef. Bachgen amddifad wyf innau! Gedwch fi'n rhydd, fechgyn! Beth a wneuthum i chi?"
"Gad e'n rhydd," atebai rhai ohonynt, "meddwl, bachgen amddifad yw e. Gad iddo fynd lle mynno."
"Duw! Duw!" meddai'r cysurwr, gan godi ei ben oddiar y ford, "gad iddo fynd. Gad iddo fynd ei ffordd."
Ac yr oedd y Cosaciaid ar fynd ag ef allan eu hunain, pan ataliwyd hwy gan hwnnw a fuasai mor awyddus am ddysg.
Rhowch lonydd iddo," meddai wrthynt, "rwyf i'n mynd i siarad ag e' ynghylch yr athrofa. Rwyf innau'n mynd i'r athrofa fy hunan."
Ar wahân i hynny, y mae'n amheus a allasai'r athronydd gyflawni ei gynllun, canys pan geisiodd godi o'i gadair,