Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brenin yr Ellyllon.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Pe buasai hi fyw yn unig foment yn hwy," meddai'r gŵr bonheddig yn bruddaidd, " cawswn yn siwr ddeall y cwbl. Nadwch i neb adrodd y gweddïau drosof, Dada, ond ewch ar unwaith i'r Athrofa yn Kiev at y myfyriwr, Choma Brwt. Gweddïed ef dair noswaith dros fy enaid pechadurus. Y mae ef yn gwybod. . . Ond pa beth a ŵyr, nis clywais, canys hynny'n unig a ddywedodd y druan gariad, a bu farw. Go debig eich bod chwi, ŵr da, yn enwog am eich buchedd dduwiol a'ch gweithredoedd defosiwn, ac efallai mai felly y clywodd amdanoch."

"Pwy? Myfi?" meddai'r myfyriwr, gan gamu'n ol mewn syndod. "Buchedd dduwiol?" llefai, gan edrych ym myw llygaid y gŵr bonheddig. "Duw a'ch helpo chi, syr! Beth a bair i chi ddywedyd hynny? Y Dydd Iau Santaidd olaf i gyd, fe euthum i mewn i'r siop felysion— er y dylai fod arnaf gywilydd ei gyfaddef."

"Wel, sut bynnag, rhaid bod ganddi ryw reswm dros ei gorchymyn. Rhaid i chi ddechreu'ch dyletswyddau heddyw."

"O ran hynny, syr, carwn ddywedyd wrthych . . . Yn wir, gallai unrhyw ddyn hyddysg yn yr Ysgrythur Lân. . . ond cymhwysach fyddai galw offeiriad yma, neu beth bynnag ddarllenwr Ilithiau. Y maent hwy'n bobl hyddysg a ŵyr yn iawn sut y dylid cyflawni'r defodau hyn; ond am danaf i . . . Ie, a 'dyw fy llais i ddim yn taro, a minnau fy hunan—wfft i'r peth! 'Dwyf i ddim yn cyfrif am ddim."

Gellwch feddwl a fynnoch, ond fe gyflawnaf i holl ddymuniadau olaf fy nghariad fach bob un. A phan orffennoch ddarllen y gweddïau'n hollol reolaidd am dair