Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brenin yr Ellyllon.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a lifa o'm llygaid hen, a'm gelyn yn gorfoleddu ac yn chwerthin yn ddirgel dros hen ŵr gwan

Arhosodd, canys daeth cenllif o ddagrau dros ei ruddiau o don orwyllt o alar.

Cyffrowyd yr athronydd gan y trallod anniddanadwy hwn. Pesychodd, a chlirio'i wddf yn dyner wrth geisio'i lais.

Troes y gŵr bonheddig ato, a dangos iddo le wrth ben y corff o flaen desg weddïo fach â llyfrau arni.

"Gallaf ddal hyn dair noswaith," tybiai'r athronydd, 'oherwydd fe orleinw y gŵr mawr fy nwy logell â phunnoedd disglair."

Aeth at y corff, a chan besychu unwaith eto, dechreu darllen, gan hoelio'i lygaid ar y llyfr fel nad edrychai ar wyneb y ferch farw. Yr oedd yno dawelwch mawr. Deallodd fod y gŵr bonheddig wedi myned allan o'r ystafell. Cododd ei ben yn araf i edrych ar wyneb y marw, ac • • • •

Aeth echryd drosto. Gorweddai o'i flaen y fath brydferthwch ag na welir ond yn anaml yn y byd. Tybiai na cherfiwyd erioed wynepryd yn y fath fodd dillyn a thelaid. Yr oedd fel petai'n fyw. Gellid meddwl wrth ei thalcen, a oedd fel yr arian o welw, ac fel yr eira o dyner, ei bod yn myfyrio ar rywbeth. Codai ei hamrannau gwymp dichlyn—nos ynghanol goleu'r dydd yn falch uwch ei llygaid caeëdig. Gorffwysai'r amranflew fel saethau ar ei gruddiau, a losgai gan wrid dyhewyd dirgel. Yr oedd ei gwefusau rhuddgoch yn wastadol ar dorri'n wên orhoenus, yn llif o ddedwyddwch . . . Ond yn yr un wynepryd, gwelai rywbeth a'i harswydai, a geulai ei waed. Clywai ryw boen clafaidd yn dechreu yn ei galon,