fel pan fo rhywun yn sydyn yn taro rhyw gainc alarnad ynghanol y ddawns lawen chwidr bensyfrdan. Yr oedd ei gwefusau rhuddgoch fel petaent yn sugno'i galon. "Y widdon," gwaeddai mewn llais dieithr iddo, a chan droi ei lygaid ymaith, dechreuodd, yn welw ei wedd, ddarllen ei weddïau. Y widdon a laddasai ydoedd. Cludasant y corff i'r eglwys, a'r haul yn dechreu ymachlud. Cynhaliai'r athronydd yr elor ddu ar un ysgwydd, a chlywai ias oer fel yr ia yn yr ysgwydd honno. Cerddai'r gŵr bonheddig ei hun yn y blaen, gan ddal ochr dde cartref cul y marw. Safai'r eglwys goed, a dduai gan henaint, ac wedi ei gorchuddio â chen gwyrdd, bron ar ymyl y pentref yn ei hunigrwydd chwithig. Yr oedd yn amlwg na buasai gwasanaeth ynddi ers hir amser. Safai canhwyllau goleuedig o flaen pob delw bron. Rhoesant yr arch i lawr ynghanol yr eglwys o flaen yr allor. Cusanodd yr hen ŵr bonheddig ei ferch farw unwaith eto, ac ymostwng yn ei hyd, a myned allan o'r eglwys gyda'r cludwyr, gan orchymyn iddynt gyfrannu'n fanwl i holl gyfreidiau'r athronydd a myned ag ef yn ol i'r eglwys wedi iddo swpera. Ar ol iddynt fyned i mewn i'r gegin, rhoes pawb a fu'n cario'r arch ei law ar y stôf—arferiad ymhlith trigolion Wcraina wedi edrych ar gorff.
Parodd y newyn yr oedd yr athronydd yn dechreu ymglywed ag ef iddo anghofio popeth am y ferch farw am rai munudau. Dechreuodd holl weision (a morynion) y tŷ ymgynnull yn y gegin yn bur fuan. Yr oedd y gegin yn nhŷ'r gwrda yn debig i glwb, lle y llithrai pawb a drigai ar y fferm, ynghyd â'u cŵn, a ddeuai, dan ysgwyd eu cynffon, at y drws, i gael esgyrn a briwsion cig. Pa neges bynnag yr anfonid gwas iddi, pa fusnes bynnag a fyddai ganddo