Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brenin yr Ellyllon.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Robin,' 'Dere yma, Tom,' a ffwrdd ag ef ar ei geffyl ar garlam gwyllt—ni wyddech pa un oedd gyflymaf—ei gi neu yntau. Gallai lyncu chwart o gwrw ar ei dalcen—ni welsoch y fath beth erioed. A dyna heliwr godidog! Ond am beth amser yn ddiweddar, cadwai ei lygad yn dyn ar y ferch ifanc. Yr oedd ef wedi cwympo mewn cariad â hi, neu efallai ei bod hi wedi ei reibio—sut bynnag, yr oedd yn ddyn colledig, wedi colli ei ben yn llwyr ar fenyw. Aeth yn y cythraul a ŵyr beth; ach a fi, mae'n gas gen i ddwedyd beth."

"Da iawn," ebe Dorosh.

"Pryd bynnag yr edrychai'r ferch ifanc arno, syrthiai'r awenau o'i law; gwaeddai Robin,' ' Bes,'; cwympai,—ac ni wyddai beth yr oedd yn ei wneuthur. Daeth y ferch ifanc un tro i'r stabl, ac yntau'n brwsio'r ceffylau.

Micita bach,' meddai hi, carwn roi fy nhroed arnat.' Ac ebr yntau'r ffwl, wedi dwlu'n lân, Nid un droed yn unig, ond eisteddwch arnaf.' Cododd y ferch ifanc ei throed, a phan welodd ef y droed noeth, luniaidd, wen, yna, meddai ef, yr oedd fel petai'n hurt gan ryw berlewyg. Camodd yr hurtyn ei gefn, a chan ddal ei thraed noeth yn ei ddwy law, dechreu tuthio fel ceffyl dros y stabl. Ni wyddai i ba le y marchogasant; ond daeth yn ol yn hanner marw, ac o'r pryd hynny allan, nychodd a gwywodd fel asglodyn. Ac un diwrnod pan ddeuthant i'r stabl, yn lle Micita, gorweddai twr o ludw a bwced gwag yno. Yr oedd wedi ei iwyr losgi. Ond yr oedd yn heliwr gwych, heb ei debig yn unman!"

Wedi i Spirid orffen ei stori, llefarai pawb am rinweddau'r heliwr ymadawedig.