awyr i bob cyfeiriad. Yr oedd yn awr uwch ei ben yn union; ond canfu'r athronydd ar unwaith na allai daro ar y cylch a dynasai, a dyblodd ei swyneiriau. Cwympodd yr arch yn sydyn ar ganol yr eglwys, ac ni symudodd. Cododd y corff drachefn ohono, yn wyrddlas ei liw. Eithr y foment honno, clybuwyd o bell ganiad y ceiliog; ymollyngodd y corff i'r arch, a slamiodd y clawr arno.
Curai calon yr athronydd yn wyllt, a llifai'r chwŷs drosto. Ond cymerth galon wrth gân y ceiliog, a darllenodd yn frysiog y tudalennau a ddylasai eu darllen ynghynt. Ar lasiad y wawr, daeth i'w ryddhau gurad ac Iaftwch walltfrith a wasnaethai'n glochydd am y tro.
Methodd gan yr athronydd gysgu yn hir wedi iddo gyrraedd ei wely pell; ond cafodd ei flinder y trechaf, a hunodd tan bryd cinio. Pan ddeffroes, yr oedd holl ddigwyddiad y nos cynt fel breuddwyd iddo. Rhoesant iddo beint o licwr er mwyn iddo ddod i'w le. Amser cinio, buan y cafodd hwyl, gan roi barn ar wahanol bynciau, ac ysodd ei hunan bron fochyn sugno go fawr. Ond yr un pryd, penderfynodd na ddywedai air am ei brofiad yn yr eglwys a hynny oherwydd rhyw deimlad na allai ef mo'i esbonio. Pan ofynnai'r rhai holgar rywbeth iddo, ei unig ateb a fyddai, "Do, digwyddodd amryw bethau rhyfedd." Yr oedd yr athronydd yn un o'r bobl hynny sydd yn magu rhyw radlonrwydd eithriadol pan fônt wedi cael eu gwala o fwyd. Gorweddodd â'i bib rhwng ei ddannedd, gan edrych ar y cwmni â llygad nodedig o dyner, a phoerai'n ddiddiwedd ar y llawr.
Wedi cinio, yr oedd yr athronydd yn hollol wrth ei fodd. Aeth dros yr holl le er mwyn adnabod pawb. Yn wir, fe'i gwthiwyd allan o rai o'r bwthynnod. Rhoes un llances