wisgi ergyd iawn iddo yn ei gefn â'i llwyarn, am iddo ddechreu ei thynnu a cheisio gweld pa beth oedd defnydd ei chamse a'i sgyrt. Ond po nesaf y deuai'r nos, tawelaf oll yr ai'r athronydd. Yr awr cyn swper, byddai'r holl gwmni'n crynhoi ynghyd i chwarae "cragli," math o chwarae ceilys lle y defnyddir ffyn hir yn lle pelau, a chan yr enillwr hawl i farchogaeth ar gefn y collwr. Yr oedd y chwarae hwn yn llawn difyrrwch i'r sawl a fyddai'n edrych arno. Weithiau marchogai'r marchwas corffol ar gefn y meichiad—cor o greadur bach gwannaidd. Bryd arall, rhoddai'r marchwas ei gefn ei hun, a Dorosh yn neidio arno gan weiddi, "Dyma ych braf!" Eisteddai aelodau mwyaf sobr y teulu ar drothwy'r gegin. Ysmygent eu pipau, ac edrych yn ddifrifol iawn, hyd yn oed pan waeddai'r rhai ifainc wrth chwerthin am ryw ateb ffraeth gan y marchwas neu Spirid. Ofer y ceisiai Choma ymroi i'r chwarae; yr oedd rhyw brudd—der wedi ei hoelio ar ei feddwl. Pa mor galed bynnag y ceisiai ymddifyrru wedi swper, llosgai dychryn yn ei fynwes fel y lledai'r tywyllwch dros y ffurfafen.
"Wel, mae'n bryd mynd, Mistar Myfyriwr," eb y Cosac gwalltfrith, gan godi gyda Dorosh, awn at ein busnes.'
Arweiniwyd Choma fel o'r blaen at yr eglwys; fel o'r blaen, gadawsant ef yn unig, a chloi'r drws arno. Cyn gynted ag y gadawyd ef wrtho'i hun, dechreuodd ofnocâu eto. Bwriodd ei olwg drachefn ar luniau tywyll y seintiau yn eu fframiau disglair, ac ar yr elor ddu a safai'n fygythiol o dawel a llonydd ynghanol yr eglwys.
"Pam," ebr ef," nid oes dim rhyfedd yn hyn y tro hwn! Y tro cyntaf yn unig y cefais ofn. Ie, y tro cyntaf yn unig