yr oedd arnaf dipyn bach o ofn, ond nid oes arnaf ddim yn awr—dim o gwbl yn awr."
Aeth yn gyflym i mewn i gôr, tynnu cylch o'i gwmpas, dywedyd ychydig swyneiriau, a dechreu darllen y gweddïau â llais uchel, gan benderfynu na chodai ei lygaid oddiar ei lyfr, ac na sylwai ar ddim. Bu'n darllen am ryw awr, ac yr oedd yn dechreu blino a phesychu; cymerth ei flwch snwff o'i boced, a chyn rhoi snwff at eu drwyn edrych yn nerfus at yr arch. Oerodd ei galon yn ddisyfyd o'i fewn; yr oedd y corff yn sefyll o'i flaen, ar y cylch, a'r llygaid gwyrdd fel angeu wedi eu hoelio arno. Arswydodd y myfyriwr, Sefydlodd ei lygaid ar ei lyfr ac aeth ias oer drwy ei holl wythi. lyfr, a dechreu darllen yn uwch ei weddïau a'i swyneiriau; a chlywodd y corff eto'n ysgyrnygu dannedd ac yn estyn ei freichiau allan i gydio ynddo. Ond wrth giledrych ag un llygad arno, gwelodd nad oedd y corff yn crafangu am dano ef yn y fan lle y safai, ac yn amlwg, na allai ei weled. Dechreuodd y widdon sisial yn dawel, a llefaru geiriau dychrynllyd â'i gwefusau marw. Yr oedd rhyw igian cryg ynddynt, fel bwrlwm pyg wrth ferwi. Ni wyddai ef mo'u hystyr, ond cynhwysent ryw feddwl arswydus. Parodd ei ddychryn i'r athronydd ddeall ei bod yn llunio melltithion.
Wedi iddi siarad, cododd corwynt yn yr eglwys, a chlywid sŵn fel taro llu o adenydd. Clywai hwy'n taro yn erbyn ffenestri'r eglwys ac yn erbyn eu barrau heyrn, a chrafu'r haearn â chrafangau, a rhyw allu anweledig yn curo'r drws ac yn ceisio torri i mewn i'r eglwys. Curai ei galon yn wyllt o hyd; crychodd ei lygaid, a dal i ddarllen ei swyn— eiriau a'i weddiau. O'r diwedd, dyna sŵn clir sydyn yn y pellter—ceiliog yn canu draw ymhell ydoedd. Peidiodd yr athronydd diffygiol â'i ddarllen, ac ucheneidiodd yn rhydd.