yn llawn chwyth cylion. Hongiai o'i flaen ychydig o ysgorpionllys y gors, a thusw o fythwyrdd, a ddangosai pa mor bwysig oedd ar gyfair trwsiad y fursen ifanc oedd mor fanwl ar ol ei golwg. Sylweddolodd gyda dychryn. wirionedd ei geiriau. Yr oedd hanner ei wallt yn llwyd.
Crymodd Choma Brwt ei ben, ac aeth i syn-fyfyrdod.
"Af at y meistr," meddai o'r diwedd; "dywedaf wrtho'r holl hanes, a dangos yn glir iddo nad wyf am ddal ati ddarllen. Rhaid iddo f'anfon yn ol ar unwaith i Kiev." Dyna'i feddyliau wrth fynd at ddrws ffrynt tŷ'r meistr. Eisteddai'r Cyrnol, yn ddigyffro bron, yn ei barlwr. Yr oedd ar ei wyneb yr un trallod anobeithiol ag a welsai Choma yno o'r blaen; ond yr oedd llawer mwy o bant yn ei ruddiau na chynt. Yr oedd yn amlwg na chymerasai ond ychydig luniaeth—efallai, yn wir, na phrofasai ddim o gwbl. Parai rhyw welwedd dieithr iddo edrych fel darn o farmor disigl.
"Dydd da, ŵr ifanc," eb ef pan welodd Choma'n sefyll â'i gap yn ei law wrth y drws. "Wel, sut 'rŷch chi'n dod ymlaen? Yn iawn?"
"Yn iawn, ie yn iawn. Mae'r fath gythraul o chwarae'n mynd ymlaen, fel y mae arnaf i chwant cydio'n fy nghap, ac i ffwrdd â mi nerth fy nhraed."
"Sut felly?
"Wel, mae'ch merch chi, syr . . . Ac ystyried, yn iawn, mae hi wrth gwrs o dras bonheddig, ni all neb ei beirniadu ar y pwynt yna; ond—os caf ddywedyd hynny heb i chi golli'ch tymer—rhodded Duw orffwys i'w henaid
"Pam—beth a wnaeth fy merch i?"