ac yna'n blingo drachefn. Dos, dos, gwna dy ddyletswydd. Oni wnei, ni byddi'n gallu sefyll mwy; os gwnei—mil o chweugeiniau."
"Ha! ha! rhyw ddychryn o ddyn ydyw," meddyliai'r athronydd wrth fyned allan, "ni ellir cellwair ag ef. Ond aros dipyn, ffrind. Mi rof i fin ar f'esgidiau eira, fel na elli di a'th gŵn mo'm dal."
A phenderfynodd Choma ddianc ar unrhyw delerau. Ni fynnai ond aros tan yr awr ar ol cinio, pan fyddai holl bobl y tŷ'n cilio i'r gwair yn yr ysguboriau, i chwyrnu a phwffian, yn geg-agored, fel peiriannau ffactri.
Daeth yr amser o'r diwedd. Yr oedd hyd yn oed Iaftwch yn smicio'i lygaid ac yn ymestyn yn yr haul. Aeth yr athronydd, yn ei ofn a'i ddychryn, ar flaenau'i draed i ardd y meistr, y tybiodd y byddai'n haws dianc ohoni, heb ei weled, i'r wlad agored. Yr oedd yr ardd hon fel rheol wedi gordyfu'n aruthrol, ac felly'n taro i'r dim at ryw weithred ddirgel. Ac eithrio un llwybr wedi ei droedio
bobl y tŷ, yr oedd yr holl le wedi ei orchuddio gan goed ceirios tewdwf, llwyni meryw, ac ysgall uchel a wthiai eu paladrau tal, â'u blagur coch edafog, i'r lan. Toid y casgliad amryfal hwn o goed a llwyni gan rwyd grepianog, a ymestynnai i'r berth, a thaflu drosti amdorchau'n ymblethu fel nadredd i ganol gwyllt—flodau'r maes. Y tu cefn i'r berth ar ymyl yr ardd, gorweddai fforest gyfan o rug, na buasai neb, dybygid, yn ddigon ymchwilgar i fwrw golwg arni, a lle y chwilfriwid pladur pe mynnai byth â'i min dorri'r bonau coed ystyfnig hyn.
Pan oedd yr athronydd ar ddringo dros y berth, tarawodd ei ddannedd ynghyd, a churodd ei galon mor gyflym ag iddo ddychrynu. Yr oedd ymyl ei glog hir yn glynu wrth y