Crafodd yr athronydd ei ben, a dilynodd Iaftwch. "Fe ry'r hen widdon ddiawl dipyn o bupur i mi'n awr,' meddyliai. "Wel, beth bynnag, beth yn wir wyf i, ac ofn pa beth sydd arnaf? Onid Cosac wyf i? Rwy' wedi darllen y gweddïau ddwy noswaith, a chyda help Duw, af drwy'r drydedd. Mae'n amlwg bod llwyth da o bechodau ar gefn yr hen widdon ddiawl, neu ni roesai'r Gŵr Drwg y fath gefnogaeth iddi."
Felly y meddyliai wrth fyned i mewn i fferm y gŵr bonheddig. Wedi ei galonogi ei hun â'r meddyliau hyn, crefodd ar Ddorosh, a lwyddai weithiau ar gyfrif ei ddylanwad gyda'r stiward i fyned i mewn i seler y meistr, am ddod â fflagen o licwr i fyny. Ar ol eistedd yn yr ysgubor, yfodd y ddau y rhan fwyaf o alwyn, nes i'r athronydd neidio'n sydyn ar ei draed, a gweiddi, "Crythorion, rhaid i mi gael crythorion." Ond, heb aros i'r crythorion, dechreuodd ddawnsio'r tropac mewn lle clir yn y cwrt. Dawnsiodd nes iddi fod yn hwyrddydd, a gwnaeth pobl y fferm, fel y digwydd ar achlysuron felly, gylch o'i gwmpas, ac o'r diwedd, poeri a myned ymaith gan ddywedyd, "Mae'n rhyfedd pa mor hir y gall ddawnsio." Gorweddodd yr athronydd o'r diwedd i gysgu ar y fan honno, a bu raid cael bwcedaid mawr o ddwfr oer i'w ddihuno erbyn swper. Yn ystod y pryd bwyd, pregethai ar ystyr " Cosac," i ddangos na ddylai ofni dim yn y byd.
"Mae'n bryd," meddai Iaftwch. "Awn."
"Mi hoffwn i losgi dy dafod di, y mochwr diawl!" meddyliai'r athronydd; yna safodd, a dywedyd, " Awn." Fel yr oeddynt yn myned, daliai'r athronydd i edrych o'i gylch ar bob tu, a cheisiodd ymgomio â'i gyfeillion. Ond yr oedd Iaftwch yn ddistaw, ac nid oedd hyd yn oed