Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ach sidan yn y fargen, ond yr oedd Dico wrth ei fodd. Yr oedd ei galon yn neidio yn ei fynwes gan hapusrwydd, a'i lygaid yn disgleirio drwy'r dydd.

Ond daeth cwmwl i'w ffurfafen yntau. Daeth dyn ieuanc i'r dref yn brentis o dwrne. Yr oedd hwn yn wr ieuanc o foddion, ac yn gryn lanc ym mhob ystyr. Ai yntau i'r un capel a Miss Jenkins, a chyn hir disgynnodd ei lygaid arni fel yr eneth harddaf yn y dref. Penderfynodd Harri Puw—canys dyna enw y gŵr ifanc—gael ysgwrs â hi, ac ni bu yn hir cyn cael y cyfle. Hoffodd yr eneth, ac, yn wir, hoffodd hithau yntau, neu yn hytrach, hoffodd o ei phryd a'i gwedd hi, a hoffodd hithau ei foddion a'i safle yntau. Ac felly, cyn hir, yr oedd Harri Puw a Miss Jenkins yn dra chydnabyddus a'i gilydd. Nid oeddynt wedi bod yn rhodio o gwmpas gyda'i gilydd, dim ond siarad wrth y capel neu pan ddigwyddent gyfarfod ar yr ystryd.

Eto, yr oedd Dico wedi eu gweled yn siarad y tro cyntaf, ac wedi deall fod gwrthwynebydd peryglus iddo ar y maes. Parodd hynny boen ac anesmwythder mawr iddo, ond ni pheidiodd a gwylio a chanlyn ar ol ei eilun o hyd fel o'r blaen.

Cyn hir, sut bynnag, cafodd Dico ergyd fwy poenus fyth. Un nos Sul yr oedd yn gwylio am ddyfodiad Miss Jenkins. Daeth yr amser arferol, ond ni ddaeth hi allan o'r tŷ. Disgwyliodd Dico yn hir, a phan oedd ar roi'r goreu iddi, clyw-