Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

odd y drws yn agor, a gwelodd hithau yn dyfod. Ciliodd o'r neilltu, ac yna canlynodd hi. Er ei syndod, pan gyrhaeddodd Miss Jenkins y tro at ystryd y capel, aeth hyd y ffordd arall. Teimlai Dico mai ei ddyledswydd oedd mynd i'r capel; ond ar ol Miss Jenkins yr aeth. Canlynodd hi o'r dref i gwrr y wlad, ac yn y fan honno, gwelodd rywun—dyn ieuanc—yn dyfod i'w chyfarfod, ac yn stopio i siarad ac ysgwyd llaw â hi. Yr oedd calon Dico yn curo yn gyflym iawn. Disgwyliai o hyd weled y dyn yn dyfod yn ei flaen a Miss Jenkins yn mynd y ffordd arall. Ond yn lle hynny, aeth y ddau yr un ffordd, ac ym mreichiau ei gilydd hefyd; a phan oeddynt yn pasio heibio lamp gerllaw, gwelodd Dico mai Harri Puw oedd y dyn ieuanc.

Ac aeth adref ac i'w wely. Bu yno yn druenus iawn nes oedd yn amser dyfod o'r capel. Yna cododd ac aeth i gornel yr ystryd i ddisgwyl. Bu yno am ddwyawr yn rhynnu yn yr oerfel a'r glaw, ond nid aeth Miss Jenkins heibio. Aeth Dico tuag adref drachefn, ond wrth y drws, troes yn ol ac aeth ar hyd yr ystryd lle'r oedd hi yn lletya.

Gwelodd oleu mewn un ffenestr yno, ac yna aeth adref.

Aeth amser heibio, a daeth y son fod Harri Puw a Miss Jenkins yn mynd i briodi. Clywodd Dico yr hanes; ond rywfodd nid allai gredu ei fod yn wir. Daliodd ati o hyd i wylio a chanlyn ar ol Miss