Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Jenkins o hirbell, heblaw pan welai Harri Puw gyda hi. Ac yr oedd Miss Jenkins erbyn hyn wedi dyfod i wybod am edmygedd mud Dico, ac wedi dywedyd wrth Harri Puw hefyd. Mynnai y gŵr bonheddig hwnnw ei "gicio i'r ffos" ryw noson; ond ni fynnai Miss Jenkins mo hynny.

"Mae o yn ffwl digon diniwed," meddai, a chwarddodd y ddau yn galonnog am ben Dico druan.

Cyn hir, priodwyd Harri Puw a Miss Jenkins, a bu raid i Dico gredu'r hanes pan welodd y briodas yn dyfod o'r capel, a'r ddeuddyn ieuanc yn edrych yn hapus a llawen iawn gyda'i gilydd. Aeth Dico adref y noson honno, a thrannoeth teimlai yn rhy sal i godi o'i wely. Bu yno am wythnos neu naw niwrnod yn rhyw ddihoeni, ond nid oedd dim afiechyd yn y byd arno, ebr y meddyg, hyd y gallai o ddeall.

Un noswaith, ym mhen rhyw naw niwrnod, cododd Dico gyda'r hwyr, ac er gwaethaf ei fam, aeth allan am dro. Aeth yn wysg ei drwyn i'r wlad, ac ar draws y caeau. Yr oedd hi yn wanwyn, a'r tywydd yn deg a'r dydd yn hwyhau.

A'r diwrnod hwnnw y daethai Harri Puw a'i wraig adref o'u mis mel, ac yr aethant i'w cartref newydd ar gwrr y dref. Ni wyddai Dico mo hynny.

Cerddai Dico yn ei flaen yn araf hyd y llwybr, a thoc, clywodd weiddi mawr yn un o'r caeau ar y dde iddo. Aeth i ben y gwrych i edrych a gwrando, a gwelodd