Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XIII. ARAITH DAFYDD MORGAN.

DAETH Dafydd Morgan yn sydyn i sylw mawr yn Llanygeiniog. Dyn cyffredin, fel y dywedir, ydoedd Dafydd, ond ei fod yn ddyn cyffredin go anghyffredin hefyd. Gweithiai yn y chwarel fechan oedd yn agos i Lanygeiniog, ac yr oedd yn adnabyddus yno fel dyn go ddigrif erg blynyddoedd, ond nid oedd neb ond y chwarelwyr yn gwybod rhyw lawer am dano. Un diwrnod, sut bynnag, daeth digwyddiad mawr i ran Dafydd Morgan. Ciafodd arian mawr o'r Siawnsri, a daeth rhag blaen yn ddyn o bwys yn y dref. Er fod yno amryw ddynion gweddol gefnog yn byw yn y dref, yr oedd Dafydd Morgan ar ol ei lwc yn ablach na neb o honynt.

Wrth gwrs, rhoes Dafydd y goreu i weithio yn y chwarel rhag blaen, ac i roi arbenigrwydd ar yr achlysur ac er mwyn dangos ei deimladau da at ei hen gydnabod, rhoes ginio ardderchog i'r chwarelwyr oll yn y Llew Coch, prif dafarn y dref. Yr oedd yn naturiol i rai o'r prif ddynion fod yn awyddus am fynd i'r cinio hwnnw, canys yr oedd Dafydd bellach yn ddyn nad ellid yn hawdd esgeuluso bod ar delerau da âg ef. Felly, llwyddodd amryw o fasnachwyr a phobl gefnog y dref