Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i gael gwahoddiad i'r cinio, ac yn ystod y gweithrediadau, buont yn siarad yn ol eu harfer wrth gynnyg iechyd da'r Brenin a'i deulu, y fyddin a'r llynges, yr offeiriaid a'r gweinidogion, a Dafydd Morgan a'i deulu, a llwyddiant tref a masnach Llanygeiniog. Pan feddyliodd am y swper gyntaf, nid oedd gan Dafydd syniad yn y byd y byddai pethau fel hyn yn angenrheidiol. Ni bu erioed mewn cinio cyhoeddus o'r blaen, ac ni wyddai yr arferion. O'i ran ei hun, ni buasai yng nghinio'r chwarelwyr ddim ond bwyta ac yfed mewn distawrwydd, ond yr oedd y bobl fawr a wahoddwyd yno wedi meddwl am wneud y peth yn deilwng, ac wedi cynnyg i Dafydd yr aent hwy yn gyfrifol am wneud yr holl drefniadau. Mewn ffordd, yr oedd yn dda gan Dafydd gael rhywun i edrych ar ol, ac ymddiriedodd y mater yn llwyr i'r bobl fawr oedd yn arfer â phethau o'r fath, sef tri neu bedwar o'r prif fasnachwyr, yr offeiriaid, a dau neu dri o bobl yn byw ar eu harian, rhai o honynt hefyd yn aelodau o gyngor y dref. Gwnaethant hwythau bopeth yn drefnus, a dewisasent rai o'u plith eu hunain i gynnyg iechyd pawb oedd i gael ei anrhydeddu.

Ni wyddai Dafydd ddim am y trefniadau, er ei fod yno fel llywydd, wrth gwrs. Ar ol dechreu y dywedodd rhai o'r gwŷr cyhoeddus wrtho amcan pa beth oedd i ddigwydd, ac yr oedd Dafydd wedi synnu braidd, ond ni ddywedodd ddim yn erbyn