Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd Dafydd Morgan wedi ei blesio yn fawr, ond ni wyddai fod yn ddyled arno ateb hyd nes dywedodd un o'i gyfeillion gwybodus wrtho. Ar ol iddo ddeall fod yn ofynnol iddo wneud araith, cododd Dafydd ar ei draed yn araf ynghanol cymeradwyaeth fyddarol, ac edrychodd o'i gwmpas yn fodlon. Ni wyddai ar y ddaear pa beth i'w ddywedyd, ond pan dawodd y gymeradwyaeth, gwelodd fod yn rhaid iddo ddywedyd rhywbeth, a dechreuodd arni rhag blaen.

"Wel," eb efô, "yr hen ffrindie sydd yn fy nabod i er pan oeddwn i yn hogyn ac yn ffrindiol hefo fi pan oeddwn i yn y chwarel yn faw ac yn rhwbel, a chithe y ffrindie newyddion fuo mor garedig a dwad i fy nabod i mor dda ar ol i mi gael yr arian, mae'n dda iawn gen i 'ch gweld chi yma fel hyn wrth y byrdde yma yn cael llond y'ch bolie am unweth, o leia, a barnu wrth fel rydech chi'n claddu'r trugaredde yma o'r golwg. Yn enwedig y saim paen yna, fel maen nhw yn i alw fo,—wn i ar y ddaear pam chwaith. Wel, 'doeddwn i ddim yn disgwyl am yr arian yma, ond gan eu bod nhw wedi digwydd i mi, rydw i am drio gneud y gore ohonyn nhw, wrth reswm. Roedd Mr. Jones y Siop Ucha yn deyd mod i yn un o gymwynaswyr gore'r dref yma. Wel, er na fum i ddim yn delio yn i siop o hyd yma, rydw i yn ddiolchgar iddo fo am i air da, ac mi alla ddeyd wrtho fo rwan nad anghofia i ddim fod gynno fo siop, rwan ar ol