Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eitha dyn rwan, ond mae o yn cael gormod o gyflog o heth cethin, ne ynte mae pawb arall a adwen i yn cael rhai cannoedd o filoedd yn rhy chydig am eu gwaith. Mi ddeydwyd hefyd y base hi yn o ddrwg arnon ni oni bae am y fyddin a'r llynges a'r offeiriaid o bob math. Synnwn inne ddim. Fasen ni byth yn medru ffraeo cymaint, mae'n siwr. Ond dyma fi yn mynd i siarad gormod, mi wn. 'Does gen i ond diolch ichi bawb am ddwad yma fel hyn. Stwffiwch y pethe yma i gyd o'r golwg, ac os na fedrwch chi eu rhoi nhw yn eich stumoge, rhowch nhw yn eich pocede i fynd adre!"

Dyna araith gyntaf Dafydd Morgan. A'r olaf.