Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XIV. ELIN EISIAU FÔT.

'RYDW i mewn helynt dros fy mhen a'm clustiau. Feddyliais i erioed fod y fath beth yn bosibl. Petasai'r lleuad yn disgyn wrth fy nhraed i, fuaswn i ddim yn synnu mwy. Na fuaswn, na chymaint ychwaith. 'Roeddwn i bob amser yn meddwl ei bod hi yn berffaith gall. Yn wir, buaswn yn betio fy mhen na chafodd yr un dyn erioed un fwy synhwyrol na hi. Soniodd hi erioed am y peth o'r blaen yn fy nghlyw i, beth bynnag, ac yr ydw i bron yn siwr na chlywodd neb arall moni hi yn gwneud hynny chwaith. Ond erbyn hyn, y mae hi yn wyllt ulw. Pwy, ddywedsoch chi? Wel, pwy ond y wraig acw? Be sydd arni hi? Ond wedi mynd o'i chof yn lân deg y mae hi. Be sydd o'i le? Nid y fi fedr ateb, ond y mae hi wedi mynd i gredu fod yn angenrheidiol iddi hi gael fôt. A byth er hynny—wel, wn i ddim beth i'w ddeyd na'i wneud, os gwyr rhywun arall. Y mae hi'n ofnadwy acw.

Cyn iddi hi gael yr adwyth yma, yr oedd Elin yn ddynes gall, gyda'r gallaf yn y wlad. Fum i erioed mewn helbul hefo hi. Pan ddigwyddwn i ddwad adre dipyn yn hwyr, ni byddai acw helynt o gwbwl. 'Roedd hi yn gwybod sut i wneud i'r dim. Fyddai hi byth yn dywedyd gair cas, ond