Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mi fyddai yn medru gwneud i mi feddwl yn fuan iawn fy mod i wedi aros yn rhy hwyr o lawer, ac mi fyddwn yn meddwl mwy ddwywaith o honi hi o achos fod ganddi ddull mor fedrus i fy nhrin i. Mi wyddwn o'r goreu mai dull i fy nhrin i oedd o, ond 'roeddwn i yn dotio ato, ac yn cymryd fy nhrin yn rhwydd. Wel, a pha bryd bynnag y down i adref, welais i erioed mo'r ty yn anrhefnus ganddi. Byddai popeth bob amser yn lân ac yn daclus, a thamed o fwyd blasus i'w gael heb fynd i'r drafferth o feddwl pa beth a fynnai ddyn i gael. Fyddai Elin byth yn poeni enaid dyn drwy ofyn iddo beth fynnai i'w ginio neu i'w swper. Nid allaf fi aros meddwl beth fuaswn i yn i leicio. Ac yr oedd Elin yn gwybod hynny. Peth arall oedd hi yn i wybod hefyd oedd beth fuaswn i yn i leicio. A dyma fyddai hi yn i wneud bob amser. Ac fel y gwyddoch, os gwyddoch rywbeth hefyd, 'does dim gwell gan ddyn na chael tamed o fwyd wrth i fodd heb orfod meddwl dim am dano ymlaen llaw. A dyna fyddai un gamp ar Elin. Peth arall, fel y dywedais i, oedd y byddai popeth yn lân ac yn daclus. Er nad da gan ddyn mo'r diwrnod golchi na'r diwrnod glanhau'r ty, y mae o yn leicio lle glân cyfforddus bob amser, ac mi fyddai Elin bob amser yn gofalu am le felly i mi. Yn wir, yr oeddwn i yn hapus dros ben taswn i yn gwybod hynny. Ond wyddwn i ddim ar y pryd. Mi wn erbyn hyn. Y mae hi wedi newid yn erchyll acw.