Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"I glywed be sy gynnyn nhw i'w ddeyd."

Meddyliais na ddoe dim drwg o hynny, a dywedais yr edrychwn ar ol y plant. Felly fu. Aeth Elin i'r cyfarfod, ac arhosais innau adref i edrych ar ol y plant iddi.

Go drychinebus fu'r cais. 'Roedd y chwe hynaf yn chware yn yr ardd, a'r babi yn chware yn y ty. Ni phoenais ynghylch y rhai oedd yn yr ardd i ddechreu. Achos da pam. 'Roedd gennyf fwy na llond fy nwylo hefo'r gŵr bach oedd yn y ty. Ni ddychmygais erioed fod mor anodd i ddyn fod yn feistr yn i dŷ ei hun o'r blaen.

'Roedd y babi—y mae o yn bymtheng mis oed—yn eistedd yn i gadair fach pan aeth Elin i ffwrdd. Cyn hir, yr oedd o wedi darfod chware â'r papur newydd oedd ganddo, ac mi fynnodd gael cwpan de. Ni bu ddau funud nad oedd o wedi torri honno yn deilchion. Wedyn mi gymerodd ffansi at y tecell copr oedd ar y silff ben tân. Mynnodd gael hwnnw, ac mi taflodd o rhag blaen i ganol y llestri oedd ar y bwrdd nes oedd y rheiny yn chwilfriw. Ar ol hynny mynnodd gael dwad i lawr o'i gadair, a dyna lle bum i fel adyn yn crwydro hyd y tŷ ar i ol o am ddwyawr neu dair. 'Roedd o cyn pen hanner yr amser wedi troi popeth o'r tu chwith allan, ac wedi torri popeth potyn oedd yn i gyrraedd o yn yfflon mân. 'Roeddwn i yn dechreu blino ar i orchest-